2016 Rhif 351 (Cy. 109)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU A LLOEGR

Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) (Is-ddeddfwriaeth) (Diwygio) 2016

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn cywiro gwall yn Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) (Is-ddeddfwriaeth) 2016 (“Rheoliadau 2016”).

Mae rheoliad 2 yn diwygio Rheoliadau 2016 er mwyn hepgor cyfeiriad at ddwy set o reoliadau o Atodlen 2 i Reoliadau 2016 (y rheoliadau sydd wedi eu datgymhwyso o ran Cymru).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

 

 


2016 Rhif 351 (Cy. 109)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU A LLOEGR

Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) (Is-ddeddfwriaeth) (Diwygio) 2016

Gwnaed                                 9 Mawrth 2016

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       14 Mawrth 2016

Yn dod i rym                             5 Ebrill 2016

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 198 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014([1]), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi a chychwyn

1.(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) (Is-ddeddfwriaeth) (Diwygio) 2016([2]).

(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 5 Ebrill 2016.

Diwygio Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) (Is-ddeddfwriaeth) 2016

2.(1)(1) Mae Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) (Is-ddeddfwriaeth) 2016 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn Atodlen 2, yn y tair colofn, hepgorer y cofnodion mewn perthynas ag

(a)     Rheoliadau’r Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd (Atgyfeirio Achosion a Adolygwyd) 2004([3]); a

(b)     Rheoliadau’r Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd (Atgyfeirio Achosion a Adolygwyd) (Diwygio) 2005([4]).

 

 

Mark Drakeford

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

9 Mawrth 2016

 

 



([1])           2014 dccc 4 (“Deddf 2014”). Gweler adran 197(1) o Ddeddf 2014 am y diffiniad o “penodedig”, “a bennir” ac “a bennwyd” a “rheoliadau”.

([2])           O.S. 2016/211 (Cy. 84).

([3])           O.S. 2004/2187.

([4])           O.S. 2005/605.